41. Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.
42. A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:
43. Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a'r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i'w yfed o'th ystĂȘn;
44. Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i'th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.
45. A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a'i hystĂȘn ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg.