Genesis 21:26-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw.

27. Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a'u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.

28. Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o'r praidd wrthynt eu hunain.

29. Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?

Genesis 21