Genesis 10:24-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber.

25. Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.

26. A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera,

27. Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,

28. Obal hefyd, ac Abinael, a Seba,

29. Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.

30. A'u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain.

Genesis 10