1. Adyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i'r rhai hyn wedi'r dilyw.
2. Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
3. Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma.
4. A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
5. O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.