Galatiaid 3:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O y Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith?

2. Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd?

3. A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?

4. A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd.

Galatiaid 3