Galarnad 5:8-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'u llaw hwynt.

9. Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.

10. Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.

11. Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a'r morynion yn ninasoedd Jwda.

12. Crogasant dywysogion â'u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.

13. Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.

Galarnad 5