Galarnad 4:20-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Anadl ein ffroenau, eneiniog yr Arglwydd, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.

21. Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Us: daw y cwpan atat tithau hefyd; ti a feddwi, ac a ymnoethi.

22. Gorffennwyd dy gosbedigaeth di, merch Seion; ni chaethgluda efe di mwy: efe a ymwêl â'th anwiredd di, merch Edom; efe a ddatguddia dy bechodau.

Galarnad 4