Galarnad 3:18-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr Arglwydd.

19. Cofia fy mlinder a'm gofid, y wermod a'r bustl.

20. Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi.

21. Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.

22. Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.

23. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.

Galarnad 3