Exodus 6:28-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aifft,

29. Lefaru o'r Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd: dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.

30. A dywedodd Moses gerbron yr Arglwydd, Wele fi yn ddienwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf?

Exodus 6