Exodus 5:21-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i'n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo, a cherbron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i'n lladd ni.

22. A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y'm hanfonaist?

23. Canys er pan ddeuthum at Pharo, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.

Exodus 5