Exodus 38:28-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ac o'r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau'r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.

29. A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain, a dwy fil a phedwar cant o siclau.

30. Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a'r allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri'r allor;

31. A morteisiau'r cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.

Exodus 38