Exodus 36:19-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac efe a wnaeth do i'r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.

20. Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.

21. Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen.

22. Dau dyno oedd i'r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl.

Exodus 36