A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelodd i'r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o'r babell.