Exodus 29:2-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.

3. A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyda'r bustach a'r ddau hwrdd.

4. Dwg hefyd Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

5. A chymer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr effod, a'r effod hefyd, a'r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr effod.

Exodus 29