1. A chymer Aaron dy frawd atat, a'i feibion gydag ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar, meibion Aaron.
2. Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch.
3. A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb, am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i'w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.