Exodus 26:29-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.

30. A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

31. A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: รข cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi.

32. A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a'u pennau o aur, ar bedair mortais arian.

Exodus 26