Exodus 26:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, ugain ystyllen,

21. A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

22. Hefyd i ystlys y tabernacl, o du'r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.

23. A dwy ystyllen a wnei i gonglau'r tabernacl, yn y ddau ystlys.

24. A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i'r ddwy gongl y byddant.

Exodus 26