Exodus 25:37-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.

38. A bydded ei efeiliau a'i gafnau o aur coeth.

39. O dalent o aur coeth y gwnei ef, a'r holl lestri hyn.

40. Ond gwêl wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

Exodus 25