Exodus 25:23-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

24. A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25. A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

26. A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.

27. Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

28. A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.

29. A gwna ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i gaeadau, a'i ffiolau, y rhai y tywelltir รข hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

Exodus 25