15. Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi.
16. A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.
17. A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.
18. A gwna ddau geriwb o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwr y drugareddfa.
19. Un ceriwb a wnei yn y naill ben, a'r ceriwb arall yn y pen arall: o'r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid.
20. A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio'r drugareddfa รข'u hesgyll, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: tua'r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid.