Exodus 24:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a'r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.

2. Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.

3. A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i'r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a'r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.

Exodus 24