Exodus 21:30-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ôl yr hyn oll a osoder arno.

31. Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon.

32. Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych; rhodded i'w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ych.

33. Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ych, neu asyn;

34. Perchen y pydew a dâl amdanynt: arian a dâl efe i'w perchennog; a'r anifail marw a fydd iddo yntau.

35. Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ych byw, a rhannant ei werth ef, a'r ych marw a rannant hefyd.

36. Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o'r blaen, a'i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ych am ych, a bydded y marw yn eiddo ef.

Exodus 21