Exodus 20:7-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

8. Cofia y dydd Saboth, i'w sancteiddio ef.

9. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

10. Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaethferch, na'th anifail, na'th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:

11. Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a'i sancteiddiodd ef.

12. Anrhydedda dy dad a'th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

13. Na ladd.

14. Na wna odineb.

15. Na ladrata.

16. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

17. Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaethferch, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r sydd eiddo dy gymydog.

18. A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mellt, a sain yr utgorn, a'r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.

19. A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.

20. A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i'ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.

21. A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i'r tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.

22. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai o'r nefoedd y lleferais wrthych.

Exodus 20