4. Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y'ch dygais ataf fi fy hun.
5. Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear.
6. A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma'r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.
7. A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo.
8. A'r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd.
9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo'r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r Arglwydd.
10. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad,
11. A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.
12. A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i'r mynydd, neu gyffwrdd â'i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â'r mynydd a leddir yn farw.