Exodus 13:18-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft.

19. A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Duw a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi.

20. A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, yng nghwr yr anialwch.

21. A'r Arglwydd oedd yn myned o'u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i'w harwain ar y ffordd; a'r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos.

22. Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na'r golofn dân y nos, o flaen y bobl.

Exodus 13