Exodus 10:8-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: ond pa rai sydd yn myned?

9. A Moses a ddywedodd, A'n llanciau, ac â'n hynafgwyr, yr awn ni; â'n meibion hefyd, ac â'n merched, â'n defaid, ac â'n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i'r Arglwydd

10. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo'r Arglwydd gyda chwi, ag y gollyngaf chwi, a'ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.

11. Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr Arglwydd: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharo.

12. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aifft am locustiaid, fel y delont i fyny ar dir yr Aifft; ac y bwytaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a'r a adawodd y cenllysg.

13. A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft: a'r Arglwydd a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.

14. A'r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft, ac a arosasant ym mhob ardal i'r Aifft: blin iawn oeddynt; ni bu'r fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb.

15. Canys toesant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft.

16. Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.

Exodus 10