Esther 4:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn:

16. Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a'm llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded.

17. Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.

Esther 4