Esra 8:21-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i'n plant, ac i'n golud oll.

22. Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i'n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a'i ceisiant ef, a'i gryfder a'i ddicter yn erbyn pawb a'i gadawant ef.

23. Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â'n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom.

24. Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwynt;

25. Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a'r aur, a'r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a'i gynghoriaid, a'i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.

26. Ie, pwysais i'w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur;

Esra 8