Esra 6:10-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Fel yr offrymont aroglau peraidd i Dduw y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a'i feibion.

11. Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o'i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny.

12. A'r Duw, yr hwn a wnaeth i'w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.

13. Yna Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, Setharbosnai, a'u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.

14. A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia.

15. A'r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.

16. A meibion Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid, a'r rhan arall o feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd;

17. Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech‐aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.

Esra 6