Esra 5:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Eithr wedi i'n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a'u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a'r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.

13. Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn.

14. A llestri tŷ Dduw hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o'r deml yn Jerwsalem, ac a'u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog;

15. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i'r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ Dduw yn ei le.

16. Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem. Ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef.

17. Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i'r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ Dduw hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.

Esra 5