54. Meibion Neseia, meibion Hatiffa.
55. Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda,
56. Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,
57. Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami.
58. Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain.
59. A'r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt:
60. Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.
61. A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt.
62. Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.