2. Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwŷr pobl Israel:
3. Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain.
4. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.
5. Meibion Ara, saith gant a phymtheg a thrigain.
6. Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg.
7. Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.
8. Meibion Sattu, naw cant a phump a deugain.
9. Meibion Saccai, saith gant a thrigain.
10. Meibion Bani, chwe chant a dau a deugain.
11. Meibion Bebai, chwe chant a thri ar hugain.
12. Meibion Asgad, mil dau cant a dau ar hugain.
13. Meibion Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain.
14. Meibion Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain.
15. Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain.
16. Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain.
17. Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain.
18. Meibion Jora, cant a deuddeg.
19. Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain.