Esra 2:15-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain.

16. Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain.

17. Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain.

18. Meibion Jora, cant a deuddeg.

19. Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain.

20. Meibion Gibbar, pymtheg a phedwar ugain.

21. Meibion Bethlehem, cant a thri ar hugain.

22. Gwŷr Netoffa, onid pedwar trigain.

23. Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain.

24. Meibion Asmafeth, dau a deugain.

25. Meibion Ciriath‐arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain.

Esra 2