Esra 10:18-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a'i frodyr; Maaseia, ac Elieser, a Jarib, a Gedaleia.

19. A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o'r praidd dros eu camwedd.

20. Ac o feibion Immer; Hanani, a Sebadeia.

21. Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac Usseia.

22. Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.

23. Ac o'r Lefiaid; Josabad, a Simei, a Chelaia, (hwnnw yw Celita,) Pethaheia, Jwda, ac Elieser.

24. Ac o'r cantorion; Eliasib: ac o'r porthorion; Salum, a Thelem, ac Uri.

25. Ac o Israel: o feibion Paros; Rameia, a Jeseia, a Malcheia, a Miamin, ac Eleasar, a Malcheia, a Benaia.

Esra 10