9. A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll,
10. Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill.
11. Yr holl lestri, yn aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda'r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.