Eseia 7:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd,

11. Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw; gofyn o'r dyfnder, neu o'r uchelder oddi arnodd.

12. Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd.

13. A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw?

Eseia 7