Eseia 65:18-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.

19. Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd.

20. Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir.

Eseia 65