Eseia 64:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Na ddigia, Arglwydd, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll.

10. Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd.

11. Tŷ ein sancteiddrwydd a'n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a'n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith.

12. A ymateli di, Arglwydd, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?

Eseia 64