Eseia 58:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llefa â'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Jacob.

2. Eto beunydd y'm ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw: gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesáu at Dduw.

3. Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac nis gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion.

4. Wele, i ymryson a chynnen yr ymprydiwch, ac i daro â dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder.

Eseia 58