Eseia 57:19-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr Arglwydd: a mi a'i hiachâf ef.

20. Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid.

21. Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i'r rhai annuwiol.

Eseia 57