Eseia 52:13-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Wele, fy ngwas a lwydda; efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn.

14. Megis y rhyfeddodd llawer wrthyt, (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a'i bryd yn anad meibion dynion,)

15. Felly y taenella efe genhedloedd lawer; brenhinoedd a gaeant eu genau wrtho ef; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.

Eseia 52