Eseia 5:12-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a'r nabl, y dympan, a'r bibell, a'r gwin: ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant.

13. Am hynny y caethgludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth: a'u gwŷr anrhydeddus sydd newynog, a'u lliaws a wywodd gan syched.

14. Herwydd hynny yr ymehangodd uffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth; ac yno y disgyn eu gogoniant, a'u lliaws, a'u rhwysg, a'r hwn a lawenycha ynddi.

15. A'r gwrêng a grymir, a'r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir.

16. Ond Arglwydd y lluoedd a ddyrchefir mewn barn; a'r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder.

17. Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision.

18. Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men:

19. Y rhai a ddywedant, Brysied, a phrysured ei orchwyl, fel y gwelom; nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel, fel y gwypom.

20. Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw.

21. Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a'r rhai deallgar yn eu golwg eu hun.

22. Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a'r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn:

23. Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt.

24. Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a'u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.

Eseia 5