Eseia 49:21-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn?

22. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau.

23. Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a'u breninesau dy famaethod; crymant i ti รข'u hwynebau tua'r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.

24. A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn?

Eseia 49