Eseia 49:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr Arglwydd a'm galwodd o'r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw.

2. Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym, yng nghysgod ei law y'm cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau;

3. Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot.

Eseia 49