Eseia 45:23-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o'm genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.

24. Yn ddiau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.

25. Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.

Eseia 45