Eseia 45:20-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub.

21. Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a'i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr Arglwydd? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn Dduw cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi.

22. Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y'ch achuber: canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall.

23. I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o'm genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.

24. Yn ddiau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.

25. Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.

Eseia 45