Eseia 43:26-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Dwg ar gof i mi, cydymddadleuwn: adrodd di, fel y'th gyfiawnhaer.

27. Dy dad cyntaf a bechodd, a'th athrawon a wnaethant gamwedd i'm herbyn.

28. Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd‐beth, ac Israel yn waradwydd.

Eseia 43