Eseia 42:17-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni.

18. O fyddariaid, gwrandewch; a'r deillion, edrychwch i weled.

19. Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy mor ddall â'r perffaith, a dall fel gwas yr Arglwydd?

20. Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy.

21. Yr Arglwydd sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a'i gwna yn anrhydeddus.

22. Eto dyma bobl a ysbeiliwyd, ac a anrheithiwyd: hwy a faglwyd oll mewn tyllau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anrhaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl.

23. Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw?

24. Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i'r ysbeilwyr? onid yr Arglwydd, yr hwn y pechasom i'w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i'w gyfraith.

25. Am hynny y tywalltodd efe arno lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a'i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.

Eseia 42