Eseia 41:13-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a'th gynorthwyaf.

14. Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a'th gynorthwyaf, medd yr Arglwydd, a'th Waredydd, Sanct Israel.

15. Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.

16. Nithi hwynt, a'r gwynt a'u dwg ymaith, a'r corwynt a'u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr Arglwydd, yn Sanct Israel y gorfoleddi.

17. Pan geisio y trueiniaid a'r tlodion ddwfr, ac nis cânt, pan ballo eu tafod o syched, myfi yr Arglwydd a'u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt.

18. Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.

19. Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a'r pren bocs ynghyd;

20. Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallont ynghyd, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn, a Sanct Israel a'i creodd.

21. Deuwch yn nes â'ch cwyn, medd yr Arglwydd; dygwch eich rhesymau cadarnaf, medd brenin Jacob.

22. Dygant hwynt allan, a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw.

23. Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydych chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd.

Eseia 41