Eseia 40:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cysurwch, cysurwch fy mhobl, medd eich Duw.

2. Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr Arglwydd yn ddauddyblyg am ei holl bechodau.

3. Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch lwybr i'n Duw ni yn y diffeithwch.

4. Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gŵyr a wneir yn union, a'r anwastad yn wastadedd.

5. A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a'i gwêl; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn.

6. Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes.

7. Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys ysbryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl.

Eseia 40